Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Communities, Equality and Local Government Committee

 

 

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd

 Caerdydd

CF99 1NA

                                                            

                              

5 Mawrth 2012

 

 

 

Annwyl Gyfaill

 

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru.  Er mwyn ei gynorthwyo gyda’i ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu clywed eich barn ar y pwnc hwn:

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:

 

Ystyried materion sy’n ymwneud ag Uwch Gynghrair Cymru gan gynnwys:

¡  Y graddau y mae safonau pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf;

¡  Fformat y gystadleuaeth, ac edrych ar opsiynau posibl eraill, fel newid i gael tymor dros yr haf;

¡  Datblygiad a chynnydd chwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd lefelau eraill yn y gêm;

¡  Sut y bydd Uwch Gynghrair Cymru yn cyfrannu at ddatblygu chwaraewyr ac at gymryd rhan yn y gêm ar lefelau is, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â chyfleoedd cyfartal;

¡  Safle Uwch Gynghrair Cymru yn y byd chwaraeon yng Nghymru a pha mor weladwy yw yn y cyfryngau yng Nghymru;

¡  Y clybiau sy’n aelodau o’r Gynghrair, eu seilwaith a’u hadnoddau;

¡  Sut y bydd Cynllun Strategol 2012 diweddar Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyfrannu at gryfhau Uwch Gynghrair Cymru, a sut y bydd Uwch Gynghrair Cymru yn cyfrannu at amcanion y Cynllun Strategol.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymateb gan unigolion a sefydliadau.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad hwnnw.

 

Croesewir cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg gan y Pwyllgor, a bydd yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau cyflwyno tystiolaeth lafar maes o law.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at pwyllgor.CCLLL@cymru.gov.uk

 

Neu gallwch ysgrifennu at:

 

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylid cyflwyno ymatebion erbyn 13 Ebrill 2012.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a fydd yn dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolion neu sefydliadau hoffai gyfrannu at yr adolygiad. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol gyda gwahoddiad agored I gyflwyno barn.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor.  O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad.  Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych.  Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn.  Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Yn gywir

 

 

 

 


Ann Jones AC

Cadeirydd